Menu Close
Pobl ifanc ffasiynol
Stephen Chung/Alamy

Y llawenydd o wisgo'n groes i ffasiwn traddodiadol fel Cenhedlaeth Z

Ydych chi wedi gweld bod trowsus cargo yn ffasiynol unwaith eto? Efallai eich bod yn gwisgo Crocs ar eich traed, gan fod y rhain yn cŵl nawr hefyd. I lawer, gallai hyn gael ei weld fel gwisgo'n “wael” ond Y2K (ffasiwn y 2000au) yw'r ffasiwn ar hyn o bryd.

Mae ffasiwn wedi bod yn un o'r meysydd chwarae mwyaf creadigol i fynegi'ch hun ers tro, a hefyd i ddiffinio'ch hunaniaeth a'ch statws personol. Mae Cenhedlaeth Z yn cymryd hyn o ddifrif. Fodd bynnag, nid dim ond dilynwyr ffasiwn ydyn nhw. Dyma genhedlaeth sy'n anturus ac yn chwarae gyda'r ffordd maen nhw'n gwisgo ac yn mynegi eu hunain trwy eu dillad.

Mae Cenhedlaeth Z yn gwrthod popeth, o drosiadau rhyw i gynlluniau lliw penodol a'r syniad o’r corff “perffaith”.

Am gannoedd o flynyddoedd, y diwydiant ffasiwn oedd yn rheoli'r hyn a oedd yn ffasiynol. Roedd y cysylltiad gyda'r cyfryngau yn un agos, yn ogystal â theicwniaid y diwydiant. Mae'r berthynas hon wedi galluogi i dueddiadau ffasiwn i gael eu rhagweld, ac i symudiadau esthetig gael eu cynllunio a darparu ar gyfer defnyddwyr.

Mae’r berthynas hon bellach yn cael ei chwalu gan genhedlaeth o frodorion digidol sy’n byw mewn byd lle mae’r gwahaniaeth rhwng y digidol a’r corfforol yn gymysg.

Does neb yn mynd i orfodi Cenhedlaeth Z beth i'w wneud. Dydyn nhw ddim pryderu am fod yn ffasiynol. Ar y cyfryngau cymdeithasol, nhw sy'n creu eu tueddiadau eu hunain, a hynny drwy dorri rheolau, bod yn greadigol a dod o hyd i hapusrwydd wrth wisgo'n ddewr.

Democrateiddio ffasiwn

Mae pob cenhedlaeth wedi newid ffasiwn. Daeth y “baby boomers” â “flower power” i ni yn y 1960au a’r 1970au, gan ddefnyddio cariad rhydd. Roedd hyn yn wahanol i rolau cymdeithasol a rhywedd amlwg eu rhieni.

Daeth brodyr a chwiorydd iau y “boomers” â phync i ni yn y 1970au a’r 1980au, yn ogystal â isddiwylliant oedd yn defnyddio symbolau’r wladwriaeth yn erbyn ei hun a chwarae’n fwriadol gyda beth oedd yn anweddus a ddi-chwaeth. Roedd hyn yng nghanol awyrgylch wleidyddol fyd-eang o geidwadaeth a gormes.

Yna eto yn y 1990au daeth grunge, sef ymateb Cenhedlaeth X i fyd heb ddyfodol ar ôl y rhyfel oer.

Wel, mae Cenhedlaeth X wedi cael plant bellach. Mae'r plant hynny wedi penderfynu eu bod yn teimlo'n hapus wrth wisgo y tu allan i'r rheolau (fel petai). Gallwch chi fod yn unrhyw beth, gallwch chi fod yn bopeth a gallwch chi fod yn ddim byd o gwbl.

Mae Cenhedlaeth Z (a hyd yn oed y mileniaid) wedi gweld ffasiwn yn cael ei ddemocrateiddio, fesul y cyfryngau cymdeithasol a chyrhaeddiad byd-eang llwyfannau ar-lein. Maen nhw wedi gweld miloedd o isddiwylliannau bach yn cael eu ffurfio ar-lein lle mae yna gylchrediad o esblygu, ffrwydro a diwygio.

Cymerwch “emos” y 2000au cynnar. Unwaith yn isddiwylliant mawr, cafodd ei wthio i gorneli'r wê lle roedd pawb yn meddwl y byddai'n darfod a thrigo.

Ond mae emo wedi cael ei adfywio, gyda phobl yn gwisgo du, corsets yn dod yn cŵl unwaith eto a cholur llygaid trwm yn cael ei ddefnyddio gan aelodau o Genhedlaeth Z fel Willow Smith ac Olivia Rodrigo.

Ond dydy Cenhedlaeth Z ddim yn glynu at un arddull chwaith. Mae ffasiwn wedi troi'n gymysgedd o dueddiadau a syniadau lle gall unigolyn ddefnyddio'r cynhwysion i greu ac ail-greu hunaniaeth drosodd a throsodd. Llawenydd sydd mewn gwisgo, nid ofn. Does dim rheolau.

Dim rheolau

Wrth i ddefnyddwyr ffasiwn newydd ailddyfeisio syniadau o beth sy'n hardd ac yn chwaethus, mae'r effaith draddodiadol ar dueddiadau wedi'i disodli gan fwrlwm o ffynonellau newydd sy'n diffinio beth sy'n newydd a'r hyn sy’n dod nesaf. O Instagramwyr i eiconau, flogwyr a TikTokwyr, mae'r ffynonellau ar gyfer tueddiadau yn eang ac yn amrywiol.

Mae pobl ifanc yn creu lle ar gyfer eu hunain mewn byd newydd. Dyma fyd lle mae'r syniad o fod yn “ffasiynol” yn llygad y gwyliwr. Boxers fel penwisg neu legins fel sgarff? Pam lai. Beth am hyd yn oed wisgo bysellfwrdd fel top? Mae uchafiaeth yn mynd i eithafion newydd wrth i ddillad gael eu haenu dros fwy o ddillad. Does dim lliw, gwrthrych na phatrwm y tu hwnt i’r posibiliadau.

Plant COVID yw’r rhain, cenhedlaeth a dyfodd i fyny yn ystod trychineb byd-eang lle yr unig fath o gyfathrebu oedd ar gael oedd cyfathrebu digidol a dau ddimensiwn.

Y wisg gryfaf a mwyaf beiddgar a gwallgof yw'r un a fydd yn cael y sylw mwyaf ar y sgrin. I blant sydd wedi arfer blasu'r cyfryngau fesul TikTok yn hytrach nag erthyglau golygyddol sgleiniog, dim ond y rhai mwyaf dramatig, hwyliog a chwareus fydd yn gwneud y tro.

Mae'r byd ffasiwn wedi cymryd ei hunan yn llawer rhy ddifrifol am gyfnod rhy hir. Yr hyn sydd ei angen nawr yw glanhad gan bobl ifanc, greadigol. Dylem i gyd ddilyn eu hesiampl a chael llawenydd wrth wisgo beth bynnag a fynnwn.

This article was originally published in English

Want to write?

Write an article and join a growing community of more than 182,600 academics and researchers from 4,945 institutions.

Register now