Menu Close

Mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog ymfudwyr i deimlo’n gartrefol

Arwydd dwyieithog yn croesawi pobl i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer troi Cymru'n ‘genedl noddfa’. Ceri Breeze/Shutterstock

Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn unig sydd â’r grym i benderfynu pwy all gael mynediad i’r wlad, a hi sy’n gyfrifol am lunio polisïau mudo a lloches. Ond mae gan lywodraethau datganoledig y gallu i ddefnyddio’u grymoedd hwy mewn meysydd fel tai, addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn dylanwadu ar natur y cymorth a gynigir i newydd-ddyfodiaid.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraeth Cymru wedi edrych am ffyrdd gwahanol o defnyddio’i grymoedd datganoledig er mwyn cynorthwyo ffoaduriaid a mewnfudwyr i integreiddio yng Cymru. Ac fel rhan o hyn rhoddwyd pwyslais cynyddol ar rôl yr iaith Gymraeg.

At ei gilydd, yr amcan fu ceisio datblygu amgylchedd croesawgar a chefnogol yng Nghymru. Mae hyn yn cyferbynnu â’r pwyslais mae llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi’i roi ar yr angen i leihau mudo net, ac ar geisio creu “amgylchedd gelyniaethus” i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Y cam mwyaf arwyddocaol a gymerwyd hyd yma gan lywodraeth Cymru oedd cyhoeddi cynllun yn 2019 yn amlinellu camau ar gyfer troi Cymru yn “genedl noddfa”.

Fodd bynnag, elfen arwyddocaol arall –- ond llai amlwg –- o waith llywodraeth Cymru fu’r camau a gymerwyd i sicrhau bod y Gymraeg yn chwarae rhan mwy blaenllaw yn y broses o groesawu mewnfudwyr a cheiswyr lloches.

Wrth drafod pwysigrwydd y gwaith hwn, dadleuodd Jane Hutt, gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Cymru, y gallai’r iaith Gymraeg fod yn “arf integreiddio pwerus iawn”.

Lletygarwch ac integreiddio

Gellir gweld sut mae’r sylw a roddir i’r Gymraeg fel rhan o’r broses integreiddio wedi datblygu wrth olrhain esblygiad y ddarpariaeth ESOL (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) yng Nghymru.

Yn 2013, torrwyd y cyswllt traddodiadol rhwng y ddarpariaeth ESOL a’r broses o sicrhau dinasyddiaeth yn y Deyrnas Gyfunol yn sgil newidiadau polisi a gyflwynwyd gan glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Un o ganlyniadau annisgwyl y newid hwn oedd creu cyfle i ddatblygu dull neilltuol yng Nghymru ar gyfer darparu addysg ieithyddol i ymfudwyr. O ganlyniad, flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddodd llywodraeth Cymru ei bolisi ESOL cyntaf. Hwn oedd y polisi cyntaf o’i fath i gael ei gyhoeddi gan unrhyw lywodraeth yn y Deyrnas Gyfunol.

Nid oedd y polisi ESOL gwreiddiol yn gwneud cysylltiad rhwng y Gymraeg ac integreiddio ieithyddol. Ond roedd fersiwn ddiweddarach, a gyhoeddwyd yn 2019, yn galw ar ddarparwyr ESOL yng Nghymru i “gynnwys y Gymraeg yn eu gwersi”.

Ystyriwyd bod hyn yn angenrheidiol gan y “gall yr iaith Gymraeg fod yn sgil werthfawr yn y gweithle”. Yn ogystal, nodwyd bod dysgu Cymraeg yn medru hwyluso “integreiddio cymdeithasol”, yn enwedig mewn “ardaloedd lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn siarad Cymraeg”.

Ochr yn ochr a hyn, bu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, er mwyn datblygu darpariaeth arloesol fyddai’n cyflwyno’r Gymraeg i siaradwyr ieithoedd eraill (WSOL). Mae Croeso i Bawb, a gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2019, yn gwrs pwrpasol sy’n rhoi cyfle i fewnfudwyr a ffoaduriaid ddechrau dysgu Cymraeg.

Ategwyd y syniad y gall y Gymraeg hybu integreiddio ac ymdeimlad o berthyn unwaith eto eleni mewn adolygiad o’r ddarpariaeth ESOL yng Nghymru a gomisiynwyd gan lywodraeth Cymru. Galwodd yr adolygiad hefyd am gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn llawn yn y rhwydweithiau addysgol sy’n gweithio i gefnogi mewnfudwyr yng Nghymru.

Goblygiadau

Mae'n bwysig peidio gorliwio maint y newidiadau a welwyd hyd yn hyn. Yn gyffredinol, y Saesneg sy’n parhau’n gyfrwng integreiddio ar gyfer y mwyafrif o fewnfudwyr a ffoaduriaid sy'n ymgartrefu yng Nghymru.

Serch hynny, mae’r pwyslais cynyddol a roddwyd ar y Gymraeg fel rhan o’r broses integreiddio yn atgyfnerthu’r argraff bod dull unigryw Gymreig o groesawu mewnfudwyr a ffoaduriaid yn cael ei ddatblygu. Mae’r ddarpariaeth WSOL newydd yn herio’r ddelwedd uniaith draddodiadol o fywyd ar draws y Deyrnas Gyfunol ac yn hybu persbectif amlieithog ac amlddiwylliannol.

Gwybodaeth ar ddysgu Cymraeg i bobl sy'n ymgartrefu yng Nghymru.

Mae gwaith ymchwil diweddar hefyd yn awgrymu bod dysgu Cymraeg yn medru gwella cyfleoedd cyflogaeth mewnfudwyr a ffoaduriaid. Gall hefyd hwyluso’r broses o ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol newydd.

Ond os oes bwriad i drin y Gymraeg fel elfen mwyfwy canolog o’r broses integreiddio, bydd angen gwneud mwy na dim ond cynnig cyfleodd ffurfiol i ddysgu’r iaith, er mor bwysig yw hynny.

Dylai llunwyr polisi ac ymgyrchwyr ystyried ffyrdd eraill o wneud dysgu Cymraeg yn fwy hygyrch. Mae darparu cyfleoedd i ddysgwyr ryngweithio'n gymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn allweddol.

Tra’i bod yn ymddangos y bydd llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i bwysleisio’r Saesneg fel yr unig gyfrwng ar gyfer integreiddio llwyddiannus, mae'r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod Cymru yn datblygu gweledigaeth wahanol, fwy amlieithog.

This article was originally published in English

Want to write?

Write an article and join a growing community of more than 182,600 academics and researchers from 4,945 institutions.

Register now