Menu Close

Dyma beth allai'r byd crypto ei ddysgu o'r arian cyfredol oedd yn cael ei dalu i weithwyr yng Nghymru ganrifoedd yn ôl

Delwedd o ddwy ochr yr un geiniog. Mae un ochr yn dangos dyn barfog.
Tocyn hanner ceiniog gan Gwmni Mwyngloddio Parys o Fôn yn 1788. Defnyddiwyd cynllun yn dangos derwydd am flynyddoedd lawer. BrandonBigheart/Wikimedia

Mae'r farchnad cryptoarian wedi gweld nifer o rwystrau diweddar: o gwymp y system Terra/Luna ym mis Mai 2022 i fethiant un o gyfnewidfeydd crypto mwya'r byd (FTX) fis Tachwedd diwethaf.

Oherwydd hyn, a phryderon ynghylch allyriadau carbon cryptoarian, fe gwympodd yr asedau'n llym yn 2022, gan golli gwerth $2 triliwn (£1.5 triliwn).

Ond er bod cryptoarian yn aml yn cael sylw, nid syniad newydd yw hwn. Roedd gweithwyr yng Nghymru canrifoedd yn ôl yn aml yn cael eu talu mewn ffyrdd oedd yn wahanol i arian cyffredin. Tocynnau materol oedd yr arian cyfredol hynny, oedd yn cynrychioli ac yn gysylltiedig â gwerth arian go iawn.

Toceiddio yw’r broses o gynrychioli ased sy’n bodoli eisoes ar gyfriflyfr drwy gysylltu’r gwerth economaidd neu’r hawliau sy’n deillio o’r asedau â “thocyn”. Gall tocynnau o'r fath fod yn ddigidol neu yn faterol.

Mae arian digidol wedi'i gynllunio i weithredu fel cyfrwng cyfnewid fesul rhwydwaith cyfrifiadurol. Dydy'r dechnoleg ddim yn ddibynnol ar unrhyw awdurdod unigol, fel llywodraeth neu fanc, i gynnal y rhwydwaith. Eto, mae hyn yn debyg i sut y defnyddiwyd tocynnau materol gan gwmnïau mwyngloddio Cymru.

Argyfwng arian

Tua diwedd y 18fed ganrif, roedd darnau arian Prydain mewn cyflwr truenus oherwydd prinder darnau arian a chopr. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, bu ymfudiad o bobl o gefn gwlad i ganolfannau mwyngloddio a gweithgynhyrchu. Roedd byw mewn trefi yn golygu bod angen arian. Ond roedd y gallu i dalu cyflogau yn amhosibl i fusnesau heb newid bach.

Gyda'r mewnlifiad o weithwyr newydd yn defnyddio arian, agorwyd siopau newydd i ateb y galw, gan greu mwy o swyddi a oedd angen cael eu talu mewn darnau arian. Er bod cynhyrchu darnau arian ffug yn anghyfreithlon, ac yn gosbadwy trwy farwolaeth, nid oedd yn anghyfreithlon i gynhyrchu tocynnau y gellid eu defnyddio yn lle darnau arian.

Dechreuodd y cyfnod mawr cyntaf o gynhyrchu tocynnau yn ystod y Chwyldro Diwydiannol cyntaf yn 1787 pan gafodd tocyn Cwmni Mwyngloddio Parys ei gynhyrchu. Roedd y cwmni hwn yn cloddio copr ar Fynydd Parys ar Ynys Môn.

Chwarel brown a oren.
Dyma sut mae Mynydd Parys yn edrych erbyn heddiw. rhianjane/Pixabay

Defnyddiodd y cwmni fwyn copr Parys i gynhyrchu tocynnau y gellid eu cyfnewid am geiniogau swyddogol yn unrhyw un o siopau neu swyddfeydd y cwmni. Cwmni Mwyngloddio Parys oedd y cyntaf yn y byd i ddosbarthu tocynnau. Roedd y tocynnau yn cael eu hystyried fel “tocynnau blaenllaw” yr 18fed ganrif gan arbenigwyr arian y cyfnod.

Yn fuan, roedd bron pob tref ym Mhrydain yn cynhyrchu'r fath docynnau. Cafodd hyn ei ysgogi’n rhannol gan brinder arian y llywodraeth a gwelliannau mewn gweithgynhyrchu darnau arian gan fathdy Soho Matthew Boulton yn Birmingham, oedd hefyd yn cynhyrchu tocynnau.

Erbyn troad y 19eg ganrif, mae'n debyg bod cyfanswm cyflenwad a chyflymder cylchrediad y tocynnau, darnau arian tramor ac amnewidion eraill yn fwy na rhai o ddarnau arian swyddogol y wlad.

Gwelwyd y broses toceiddio mewn gwledydd eraill, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. Roedd gwersylloedd mwyngloddio a thorri coed yn y 19eg ganrif fel arfer yn eiddo i un cwmni. Roeddent yn cael eu rhedeg mewn lleoliadau go anghysbell, lle yr oedd y cyfle i gael gafael ar arian parod yn wael.

Byddai'r fath gwmnïau yn aml yn talu eu gweithwyr mewn “sgrip”, hynny yw, tocynnau. Doedd gan y gweithwyr ddim fawr o ddewis ond prynu nwyddau mewn siopau a oedd yn eiddo i'r cwmni. Trwy ychwanegu at bris nwyddau, gallai'r cwmni gynyddu eu helw a gorfodi teyrngarwch gweithwyr.

Ceiniog arian wedi ei osod ar fwrdd gwyrdd.
Ceiniog arian wedi ei gynhyrchu gan Gwmni Mwyngloddio Parys. Obscurasky/Wikimedia

Tra bod cynhyrchu tocynnau gan Gwmni Mwyngloddio Parys wedi’i sbarduno gan y Chwyldro Diwydiannol cyntaf, mae poblogrwydd Bitcoin a chryptoarian arall wedi’i gyflymu gan y pedwerydd Chwyldro Diwydiannol.

Er bod mwy na 200 mlynedd rhwng y ddau gyfnod, mae gan brofiad y tocynnau gwreiddiol wersi pwysig ar gyfer cryptoarian heddiw. Yn gyntaf, er mwyn i gryptoarian lwyddo, mae angen ecosystem gref arnynt. Bydd ecosystem effeithiol yn cynnwys dau brif beth – ffyrdd i unigolion gronni'r crypto/tocynnau, galw a defnydd am y crypto sy'n trwytho â gwerth, ac amgylcheddau lle gellir cyfnewid am nwyddau a gwasanaethau.

Yn ail, er mwyn i cryptoarian fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy yn y tymor hir, rhaid iddynt gynnal eu pwrpas gwreiddiol o gael ecosystem sy'n parhau i fod yn annibynnol o un cwmni neu lywodraeth.

Mae ymdrechion i gloi cryptoarian i un sefydliad yn sicr o fethu. Cymerwch, er enghraifft, fethiant Facebook i lansio cryptoarian rhai blynyddoedd yn ôl.

Fe fethodd tocynnau cwmnïau mwyngloddio Cymru pan gaeodd y pyllau, y chwareli neu’r siopau. Arweiniodd hynny at fethiant un neu fwy o dair cydran allweddol yr ecosystem. Fe gollodd y pobl gyda'r tocynnau eu harian, sy'n wers i ni heddiw.

Want to write?

Write an article and join a growing community of more than 182,600 academics and researchers from 4,945 institutions.

Register now